I'r gaeaf ac i'r cyffylog.
1 A fu ddim ddamwain breidd-fyw
2 mor elyn i serch-ddyn syw,
3 A'r gaeaf oeraf eiroed
4 hirddu cas yn hyrddio coed ?
5 Aruthr ei grwydr rhwng dwy-dref
6 Oer o was tâd eiry yw ef
7 Ni bu vn na bae anawdd
8 ganthaw ai hawdd cuddiaw cawdd
9 mewn eiry er fy mwyn aros
10 y rhynn od a rhew a nos
11 haws oedd mewn castell celli
12 ar hafnos ei haros hi
13 Gan glywed digrifed ton
14 y gôg lâs ddigoeg loession
15 Anhebic mewn coedwic Mai
16 a chyffyrf oedd o chaffai.
17 I rodio tro treigl annun
18 tan fargod to ty feurgun
19 [208a] Pe rhon drannoeth annoethiaid
20 im ei chael amau o chaid.
21 I dyddyn gweirdy diddos
22 ofn a oedd yng-aiaf nos
23 Na ddigonai chwai chwedl-freg
24 engyn ar y dynyn deg.
25 Glan ymddiddan ydd oeddem
26 glud gwyn mi a gloew-deg em
27 Gwnaeth fraw frych-leidr anghyfrwys
28 a dychryn im gloew-ddyn glwys.
29 Coll gylfin-berf goferfwyd
30 y cyffylog llidiog llwyd
31 Edn brych di lewych o liw
32 o adar gaiaf ydiw
33 Modd y gwnaeth nid maeth fy myd
34 wrth ben bagl wrthban bowglyd
35 Cychwyn yn braff ei drafferth
36 adain bol oddi dann berth
37 A neidio hyd pan ydoedd
38 mewn perth ddu nid o'm porth oedd
39 Gan faint trwst-grwydr ar lwydrew
40 dwy ffiloc y taioc tew.
41 Tygessym dwyn deugwyn dig
42 Trist oeddym mae trwst eiddig
43 Golesc frys rhwng llys a llwyn,
44 gwyllt-ruthr peis-frych gwahell-drwyn
45 Treiddiai yn ffrom wrth domawg
46 trwyddew tail a rhew yr hawg
47 Aruthr ei chwedl xxx hocedlaes
48 a mul ger buarth-dail maes
49 Ni wyr yn llon ar fron fry
50 Na llais aml na lles imy.
51 Na cherdded medd gwych ordderch
52 drwy nen y llwyn er mwyn merch
53 [208b] Ond arwain dur-waith meinffrom
54 y bêr du a bawr y dom
55 yr edn brych a'r adain brudd
56 bribiwr ai fagl heb rybydd,
57 y caffo tro treigl goch-frych
58 bolldawd brath mab alltud brych.
Dafydd ap Gwilym.